Herald Pic1 Jun 2009.jpg

The Barbara Bus Fund was set up to help people like you begin to enjoy life a little more by getting out into the world to go shopping, to visit friends or perhaps go to family events like parties and weddings.  It developed from early beginnings over forty years ago when Barbara Werndly, a lifetime inpatient at the Royal National Orthopaedic Hospital began sharing her own converted vehicle with others in a similar situation.  The “Barbara” Fund grew and grew and today provides an invaluable service to many satisfied users  

Our head office recently uncovered recordings of an interview Barbara gave to Capital Radio in 1975. This gives an interesting insight to Barbara's thoughts and background behind the Barbara Bus Fund. Her ethos has remained with the Fund ever since and as it has continued to develop. Click here to listen to an excerpt of Barbara telling her story

This scheme differs from any other in that you have the freedom to go anywhere in the UK for up to a week without relying on costly taxis or private ambulances.  You travel in the comfort of your own familiar wheelchair in a specially adapted vehicle which, in addition to your driver, can transport up to three accompanying passengers.  The driver can be a friend, family member or carer aged 25 – 75 who has registered with the coordinator or if you have no-one available to help you we can sometimes offer a volunteer driver for the shorter trips, when you would be charged a mileage rate to cover the cost of the fuel.  Any supplementary donation to the Fund would be much appreciated

All registered drivers, whether yours or ours, are covered by our fully comprehensive insurance and the Fund also has public liability cover.  Please note that you, the user, are responsible for ensuring that your wheelchair is suitable for use with a four point restraint system.  The coordinator will explain this if required

There are no set charges when using your own driver, but we do encourage appropriate donations reflecting your appreciation of your new found freedom and of course your personal circumstances.  We also require the vehicle to be returned with a full tank of fuel

Current user or not, anyone is welcome to donate to this worthwhile Fund 

Ford Connect - Welcome aboard! First Ever User.jpg

Cafodd Cronfa Bws Barbara ei chreu i helpu pobl fel chi i ddechrau mwynhau bywyd ychydig mwy drwy fynd allan i'r byd mawr i siopa, i  weld ffrindiau neu efallai i fynd i briodas neu barti un o'ch teulu. Datblygodd y gronfa fwy na phedwar deg o flynyddoedd yn ôl pan ddechreuodd Barbara Werndly, oedd yn glaf parhaol yn yr Ysbyty Orthopedig Genedlaethol Frenhinol, rannu'r cerbyd arbennig oedd ganddi gyda phobl eraill oedd mewn sefyllfa debyg iddi hi. Tyfodd y gronfa dros y blynyddoedd ac, erbyn heddiw, mae'n rhoi gwasanaeth gwerthfawr iawn i nifer o ddefnyddwyr bodlon

Mae'r cynllun yma'n wahanol i unrhyw gynllun arall am ei fod yn rhoi'r rhyddid i chi i fynd i unrhyw le ym Mhrydain am hyd at wythnos heb ddibynnu ar ambiwlans preifat neu dacsi drud. Byddwch yn teithio'n gyfforddus yn eich cadair olwyn eich hun mewn cerbyd sydd wedi'i addasu'n arbennig, sy'n gallu cario hyd at dri o deithwyr eraill, yn ychwanegol at y gyrrwr. Gallwch gael aelod o'ch teulu, cyfaill neu ofalwr 25 - 75 oed fel gyrrwr os ydynt wedi cofrestru gyda'r cydlynydd. Neu, os nad oes gennych rywun i'ch helpu gallwn ninnau weithiau gynnig gyrrwr gwirfoddol i chi ar gyfer y teithiau byrrach a byddwn yn codi ffi bychan yn ôl y filltir

Mae pob gyrrwr sydd wedi cofrestru, pwy bynnag ydynt, wedi'u diogelu gan ein yswiriant cyfun ac mae gan y Gronfa hefyd ddiogelwch atebolrwydd cyhoeddus. Nodwch, os gwelwch yn dda, eich bod chi, y defnyddiwr, yn gyfrifol am sicrhau bod eich cadair olwyn yn addas i'w ddefnyddio gyda system ddiogelu pedwar pwynt. Bydd y cydlynydd yn esbonio hyn os oes angen

Does dim ffi penodol pan fyddwch yn defnyddio eich gyrrwr eich hun, ond rydym yn annog pobl i roi ychydig o arian i'r gronfa i adlewyrchu eu gwerthfawrogiad o'u rhyddid newydd ac, wrth gwrs, o'u hamgylchiadau personol newydd. Rydym hefyd yn gofyn i chi ddychwelyd y cerbyd gyda thanc yn llawn o danwydd

Mae croeso i bawb, a ydynt yn defnyddio'r gwasanaeth yn barod ai peidio, roi rhodd i'r gronfa hon a gallwch gael y manylion talu o'r cyfeiriad ar y dudalen gefn